Caplan Ysbyty Treforys yn rhannu profiadau cyfnod Covid

Dywed y Tad Jason Jones, sy’n gaplan uned gofal dwys Ysbyty Treforys, ei fod wedi wynebu un o gyfnodau mwyaf heriol ei fywyd yn ystod cyfnod Covid-19.

Mae e wedi bod yn yr ysbyty bron bob awr o’r dydd yn cysuro teuluoedd ac yn rhoi’r sacrament olaf i nifer o gleifion.

“Fe fyddai fel caplan,” meddai, “yn eistedd a gweddïo wrth ochr y gwely a rhoi cysur, ac ysbrydoliaeth gobeithio, i gleifion sydd â Covid-19.”

Eglwys Sacred Heart
Image caption‘Mae gwaith bugeiliol dwys y caplan yn parhau yn Eglwys Gatholig y Sacred Heart yn Nhreforys gan fod nifer o’r aelodau yn weithwyr iechyd,’ medd y Tad Jason Jones

Ers dechrau’r pandemig mae e wedi dod i gysylltiad â nifer o gleifion sydd â’r haint ac mae’n dweud bod hyn wedi bod yn brofiad anodd a gwahanol.

“Wrth fynd i mewn i Dreforys, mae popeth wedi newid – gyda fi nawr yn gorfod gwisgo PPE, wrth gwrs.

“Y peth arall sydd yn wahanol iawn, ac yn anodd iawn hefyd, yw y ffaith bod dim teulu o gwbl yn mynd i mewn i’r ysbyty i weld pobol sy’ yn annwyl iddyn nhw.”

Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, mae trefniadau diogelwch llym, rheolau newydd a chyfyngiadau wedi’u cyflwyno.

“Fel arfer rwy’n mynd i ystafell ac yn newid o’r clerics a’r coler i mewn i scrubs a wedyn fe fyddai yn gwisgo PPE llawn yn cynnwys masg, visor, menig, popeth ac wedyn yn mynd mewn i’r uned gofal dwys i weld y cleifion,” meddai.

Bu’n rhaid i’r Tad Jason wynebu realiti creulon Covid-19 cyn dechrau y cyfnod clo hyd yn oed.

Fe gafodd ei alw i’r ysbyty i rhoi y sacrament olaf i un o’r lleianod oedd yn gweithio yn ardal y Strand yn Abertawe.

‘Bu hi farw y diwrnod wedyn’

“Roedd hi yn un o chwiorydd cwfaint Missionaries of Charity, gafodd ei sefydlu yn y ddinas gan y Fam Theresa, ac yn anffodus fe gafodd hi Covid. Fe es i i’w gweld hi a rhoi cymundeb a’r sacrament olaf iddi ac fe fuodd hi farw y diwrnod wedyn. Hi oedd y cyntaf.”

Wrth iddo siarad mae ei lygaid yn llenwi. “Does dim ffin i Covid, mae pawb yn gallu dal y feirws. Rwy wedi gweld lot o dristwch dros y cyfnod,” ychwanegodd.

Yn nyddiau cynnar yr haint, mae’n dweud ei fod yn teimlo ychydig yn ofnus am y broses, ond wrth i nifer yr achosion gynyddu fe ddaeth y drefn yn gyfarwydd iawn iddo.

“Rwy wedi bod trwy lot o brofiade anodd ac emosiynol gyda phobol sy’ wedi marw a theulu sy’ wedi colli rhywun annwyl. Rwy ‘di trio bod yn ofalus a chariadus am bobol,” meddai.

“Rwy’n ymweld â chleifion bob dydd. Rwy’n gyfforddus nawr yn g’neud hyn, ac yn cynnal gwasanaeth byr wrth ochr y gwely. Rwy’n rhoi cymundeb a’r sacrament olaf i’r rheiny sy yn ddifrifol sâl.”

Ffarwelio ar y sgrin

Dyw teuluoedd ddim wedi cael bod gyda’r cleifion ac mae hynny wedi bod yn hynod o anodd, ychwanega’r Tad Jason Jones.

“Mae y teulu ond yn gallu edrych ar laptop, gyda fi yn sefyll wrth ochor y gwely ac yn gweddïo. Mae pobol yn dweud ffarwel ar y sgrin, ac mae hynny yn anodd iawn, iawn.”

Tad Jason Jones
Image caption‘Wrth i fi roi’r sacrament olaf, mae pobl wedi bod yn gwylio eu hanwyliaid yn marw ar laptops,’ medd y Tad Jason Jones

Mae’r Tad Jason yn wyneb cyfarwydd ymysg staff a chleifion Ysbyty Treforys ond dyw’r gwaith o gysuro a helpu pobol ynghanol pandemig ddim yn dod i ben pan bydd e’n gadael yr ysbyty. Yn ei eglwys yn Nhreforys mae nifer o’r aelodau wedi symud o India ac Ynysoedd y Philipinau ac yn gweithio fel nyrsys yn yr ysbyty.

“Rwy’n teimlo,” meddai, “bod fy ngwaith wedi newid llawer, nid jyst yn yr ysbyty ond hefyd yn yr eglwys yn Nhreforys. Rwy’n dathlu gwasanaeth bob dydd ar-lein ac mae nifer o blwyfolion, a hefyd pobol o dros y byd o lefydd fel Los Angeles a Nigeria yn dod at ei gilydd drwy social media i weddïo dros y teulu, neu be sy’n digwydd yn eu bywyd nhw.”

Yn yr offeren bob nos, ers cychwyn y pandemig, bydd ef a’i aelodau yn gweddïo dros y gweithwyr iechyd – yn eu plith rhai sydd ar fin dechrau ar eu shifft hwyr yn yr ysbyty gerllaw.

Wrth gael ei holi am sut mae pobl yn ymateb i’r pandemig mae e’n ateb yn feddylgar gan ddweud: “Rwy’n meddwl bod pobol yn chwilio nawr am rywbeth, am bwrpas ac ystyr bywyd. Mae ffydd yn rhoi cefnogaeth mawr i bobol. Bydd nifer yn gofyn i fi be sy yn digwydd. Mae’n bwysig i’r eglwys fod yn y canol gyda’r bobol yn yr ysbyty neu ar yr hewl.”

‘Bywyd newydd yn dechre’

Dywed bod hwn yn gyfnod heriol i’r caplan a’r offeiriaid o Dreforys sy’n gweithio yn ddiflino ers dechrau y pandemig gyda chleifion sy’n ddifrifol sâl a theuluoedd yn eu gofid a’u galar.

“Yr wythnos yma,” meddai, “rwy’ wedi rhoi last rites ddwywaith yn yr ysbyty. Rwy’ gyda bobol sy’n marw unwaith bob w’thnos – efalle ddwywaith.

“Mae’r profiad yn anodd, ond mae hefyd yn hyfryd achos rwy’n anfon nhw i’r bywyd tragwyddol. Hwn yw y neges gobaith a neges y Ffydd. Felly rwy’n teimlo yn emosiynol ond hefyd mae yna newyddion da ac mae’r bywyd newydd yn dechre”.